Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 10 Mawrth 2022
Amser:
09.21 -
14.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12627
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Amanda Blakeman, Heddlu Gwent Kirsty Davies, Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Casnewydd Sharon Davies, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Jon Drake, Heddlu De Cymru Cecile Gwilym, NSPCC Cymru Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru Jane Houston, Comisiynydd Plant Cymru Jamie Insole, Undeb Prifysgolion a Cholegau Dafydd Llywelyn, Dyfed-Powys Police and Crime Commissioner Claire Parmenter, Heddlu Dyfed-Powys Maxine Thomas, ColegauCymru Sue Walker, Cyngor Sir Merthyr Tudful Stephen Wood, Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Gwynedd Mon Emma Wools, Heddlu De Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Rosemary Hill (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, datganodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu bod y cyhoedd wedi eu gwahardd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd ond y byddai’r cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.
2 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 2
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr cyfiawnder troseddol.
2.2 Cytunodd DCC Claire Parmenter i ddarparu ystadegau i'r Pwyllgor gan luoedd eraill ynghylch lefelau adrodd ac astudiaethau achos yn ymwneud â’r berthynas gadarnhaol â swyddogion ysgol a phobl ifanc.
3 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 3
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr llywodraeth leol.
3.2 Cytunodd
CLlLC i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am unrhyw
drafodaethau sydd wedi'u cynnal gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol
yn Lloegr ynghylch y Bil Diogelwch a Niwed Ar-lein.
4 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 4
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr addysg bellach.
4.2 Cytunodd yr
Undeb Prifysgolion a Cholegau i ddod yn ôl at y Pwyllgor
gydag unrhyw dystiolaeth o’r effaith a gaiff achosion o
aflonyddu rhywiol a bwlio rhywiol ar gynnal disgyblaeth yn y coleg
ac a yw'n cyflwyno heriau newydd i staff addysgu.
5 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - sesiwn dystiolaeth 5
5.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan y Comisiynydd Plant a’r NSPCC.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1 Derbyniwyd y cynnig
8 Ystyried y papurau i’w nodi 1 – 22
8.1 Ystyriodd y
Pwyllgor y papurau a'r nodyn crynodeb.
9 Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr - trafod y dystiolaeth
9.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn y sesiwn flaenorol.
10 Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - y wybodaeth ddiweddaraf am Senedd Ieuenctid Cymru
10.1 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad llafar gan gynrychiolwyr Tîm Senedd Ieuenctid Cymru.